Trin Gwallt
Yn y DU yn unig, mae oddeutu chwarter miliwn o bobl yn cael eu cyflogi yn y diwydiant gwallt a harddwch. Mae’r diwydiant Gwallt a Harddwch yn hanfodol i wneud i bobl edrych yn dda a theimlo’n dda amdanynt eu hunain.
Drwy gyflawni cymhwyster neu gymwysterau Gwallt a Harddwch ar y lefel briodol, byddwch yn datblygu ac yn cryfhau’r sgiliau sy’n angenrheidiol i weithio’n effeithlon yn y diwydiant.
Pan fyddwch wedi ennill y cymhwyster, ceir cyfleoedd lu i ddatblygu eich sgiliau mewn diwydiannau eraill, e.e. Ffasiwn a Ffilmiau.
Pam Trin Gwallt?
- Mae’r proffesiwn gwallt a harddwch yn broffesiwn cyffrous – gall fynd â chi i unrhyw le bron! Fe allech gael eich hun yn gweithio mewn lleoliadau anarferol, nid mewn salon ar y stryd fawr yn unig!
- Mae yna bob amser gyfleoedd i arallgyfeirio i feysydd eraill ym maes Gwallt a Harddwch.
- Bydd y cymwysterau a enillir yn cael eu cydnabod gan gyflogwyr ac yn fantais wirioneddol pan fyddwch yn meddwl am ddyrchafiad neu wneud cais am swydd.
Y Fframwaith Prentisiaethau
Mae’r Fframwaith Prentisiaethau’n cynnwys cyfres o gymwysterau, sef QCF(NVQ) a Sgiliau Hanfodol fel arfer. Mae’r Cyngor Sgiliau Sector perthnasol sy’n gyfrifol am Trin gwallt wedi cytuno ar y cymwysterau hyn.
Bydd yr amser a gymerir i gwblhau’r fframwaith prentisiaethau’n amrywio o’r naill unigolyn i’r llall, ond dylech ddisgwyl ei gwblhau mewn 12 i 18 mis. Yn ystod y sesiwn gynefino, cytunir ar Gynllun Dysgu Unigol a bydd hwn yn cael ei roi at ei gilydd a’i bersonoli ar eich cyfer chi.
Gan ddibynnu ar eich swyddogaeth bresennol ac ar yr hyn rydych wedi’i ddysgu’n flaenorol, gellir mynd ati i ddysgu ar unrhyw un o’r lefelau canlynol. Pan fyddwch wedi cwblhau’r lefel mae’n bosib y cewch gyfle i fynd ymlaen i’r lefel nesaf.
- Lefel 2 – Prentisiaeth Sylfaenol
- Lefel 3 – Prentisiaeth
Y Cam Nesaf
Cysylltwch ag un o’n Cydlynwyr Hyfforddiant cymwys a fydd yn gallu eich cynorthwyo i benderfynu pa lefel sy’n addas ar eich cyfer chi.