Gwybodaeth Cyngor ac Arweiniad (GCA)

Mae sector GCA yn tyfu ac yn ennill amlygrwydd ar draws maes eang o fusnesau. Mae’r fframwaith yn darparu sgiliau i faes amrywiol o asiantaethau a darparwyr oddi fewn sectorau preifat a chyhoeddus. Gall Swyddi yn y maes gynnwys Ymgynghorwyr Gyrfa, Gweinyddwyr, Swyddog Cefnogi Teulu, Swyddog Cyswllt Cwsmer, Ymgynghorwyr CAB ac unrhyw swyddi eraill sydd yn gweithio uniongyrchol gyda chleientiaid, neu swyddi sydd angen i ledaenu gwybodaeth, rhoi cyngor, arweiniad ac adfocatiaeth.

Wrth ymgymryd cymwysterau Gwybodaeth Cyngor ac Arweiniad yn y lefel briodol, fydd y dysgwr yn ennill gwybodaeth, dealltwriaeth a sgiliau sydd yn angenrheidiol i weithio’n effeithiol mewn swyddi GCA.

Pam Gwybodaeth Cyngor ac Arweiniad?

  • Mae nifer o gyfleoedd ar gael yn y sector
  • Gellir trosglwyddo’r sgiliau a ddysgir i feysydd galwedigaethol eraill ac mae’r rhagolygon ar gyfer cael dyrchafiad yn rhagorol
  • Bydd y cymwysterau a enillir yn cael eu cydnabod gan gyflogwyr ac yn fantais wirioneddol pan fyddwch yn meddwl am ddyrchafiad neu wneud cais am swydd

Y Fframwaith Prentisiaethau

Mae’r Fframwaith Prentisiaeth yn cynnwys cyfres o gymwysterau, sef cymhwyster ar sail gymhwysedd, cymhwyster ar sail wybodaeth, sgiliau hanfodol a hawliau a chyfrifoldebau a gweithwyr.

Bydd yr amser a gymerir i gwblhau’r fframwaith yn amrywio i bob unigolyn, ond dylech ddisgwyl ei gwblhau o fewn 13 i 16 mis. Bydd Cynllun Dysgu Unigol yn cael eu cytuno a’i bersonoli ar eich cyfer.

Gan ddibynnu ar eich swydd bresennol a dysgu blaenorol, gall mynd ati i ddysgu ar y lefelau canlynol. Pan fyddwch wedi cwblhau’r lefel mae’n bosib cewch gyfle i fynd ymlaen i’r lefel nesaf.

  • Lefel 3 – Prentisiaeth
  • Lefel 4 – Prentisiaeth Uwch

Y Cam Nesaf

Cysylltwch ag un o’n Cydlynwyr Hyfforddiant cymwys a fydd yn gallu eich cynorthwyo i benderfynu pa lefel sy’n addas ar eich cyfer chi.

Pin It on Pinterest

Share This