Gwasanaethau Cwsmeriaid

Erbyn hyn, mae’r diwydiant Gwasanaethau Cwsmeriaid yn cyflogi bron i filiwn o bobl yn y DU. Mae ADT yn darparu hyfforddiant ym maes gwasanaethau cwsmeriaid ar draws sbectrwm eang o weithleoedd. Mae angen i fusnesau allu dibynnu ar eu staff i ddarparu gwasanaeth rhagorol i gwsmeriaid ac i gynnal safonau da o ran cysylltiadau cwsmer.

Drwy gyflawni cymhwyster Gwasanaethau Cwsmeriaid ar y lefel briodol, bydd y dysgwr yn datblygu’r sgiliau a’r wybodaeth i weithio’n effeithiol gyda chwsmeriaid.

Pam Gwasanaethau Cwsmeriaid?

  • Mae angen Gwasanaethau Cwsmeriaid effeithiol ar bob busnes, ac mae’r angen hwnnw’n aros beth bynnag arall sy’n newid
  • Gellir trosglwyddo’r sgiliau a ddysgir i feysydd galwedigaethol eraill ac mae’r rhagolygon ar gyfer cael dyrchafiad yn rhagorol
  • Bydd y cymwysterau a enillir yn cael eu cydnabod gan gyflogwyr ac yn fantais wirioneddol pan fyddwch yn meddwl am ddyrchafiad neu wneud cais am swydd

Y Fframwaith Prentisiaethau

Mae’r Fframwaith Prentisiaethau’n cynnwys cyfres o gymwysterau, sef QCF(NVQ), Sgiliau Hanfodol a Thystysgrif Dechnegol fel arfer. Mae’r Cyngor Sgiliau Sector perthnasol sy’n gyfrifol am Gwasanaethau Cwsmeriaid wedi cytuno ar y cymwysterau hyn.

Bydd yr amser a gymerir i gwblhau’r fframwaith prentisiaethau’n amrywio o’r naill unigolyn i’r llall, ond dylech ddisgwyl ei gwblhau o fewn 14 mis. Yn ystod y sesiwn gynefino, cytunir ar Gynllun Dysgu Unigol a bydd hwn yn cael ei roi at ei gilydd a’i bersonoli ar eich cyfer chi.

Gan ddibynnu ar eich swyddogaeth bresennol ac ar yr hyn rydych wedi’i ddysgu’n flaenorol, gellir mynd ati i ddysgu ar unrhyw un o’r lefelau canlynol. Pan fyddwch wedi cwblhau’r lefel mae’n bosib y cewch gyfle i fynd ymlaen i’r lefel nesaf.

  • Lefel 2 – Prentisiaeth Sylfaenol
  • Lefel 3 – Prentisiaeth

Y Cam Nesaf

Cysylltwch ag un o’n Cydlynwyr Hyfforddiant cymwys a fydd yn gallu eich cynorthwyo i benderfynu pa lefel sy’n addas ar eich cyfer chi.

Pin It on Pinterest

Share This