Gwaith Warws a Dosbarthu

Mae’r sector hwn yn cyflogi 1.7 miliwn o bobl mewn dros 63,000 o gwmnïau, gan olygu mai hwn yw’r pumed diwydiant mwyaf yn y DU. Mae gwaith warws effeithiol a dosbarthu nwyddau’n effeithiol yn golygu gwneud yn si?r bod y cynnyrch yn cyrraedd y lle iawn, ar yr amser iawn, yn y cyflwr iawn.

Drwy gyflawni cymhwyster neu gymwysterau Gwaith Warws a Dosbarthu ar y lefel briodol, byddwch yn datblygu ac yn cryfhau’r sgiliau sy’n angenrheidiol i weithio’n effeithlon yn y diwydiant gwaith warws, dosbarthu a logisteg.

Pam Gwaith Warws a Dosbarthu?

  • Mae nifer o gyfleoedd ar gael yn y sector
  • Gellir trosglwyddo’r sgiliau a ddysgir i feysydd galwedigaethol eraill ac mae’r rhagolygon ar gyfer cael dyrchafiad yn rhagorol
  • Bydd y cymwysterau a enillir yn cael eu cydnabod gan gyflogwyr ac yn fantais wirioneddol pan fyddwch yn meddwl am ddyrchafiad neu wneud cais am swydd

Y Fframwaith Prentisiaethau

Mae’r Fframwaith Prentisiaethau’n cynnwys cyfres o gymwysterau, sef QCF(NVQ), Sgiliau Hanfodol a Thystysgrif Dechnegol fel arfer. Mae’r Cyngor Sgiliau Sector perthnasol sy’n gyfrifol am Gwaith Warws a Dosbarthu wedi cytuno ar y cymwysterau hyn.

Bydd yr amser a gymerir i gwblhau’r fframwaith prentisiaethau’n amrywio o’r naill unigolyn i’r llall, ond dylech ddisgwyl ei gwblhau mewn 12 i 15 mis. Yn ystod y sesiwn gynefino, cytunir ar Gynllun Dysgu Unigol a bydd hwn yn cael ei roi at ei gilydd a’i bersonoli ar eich cyfer chi.

Gan ddibynnu ar eich swyddogaeth bresennol ac ar yr hyn rydych wedi’i ddysgu’n flaenorol, gellir mynd ati i ddysgu ar unrhyw un o’r lefelau canlynol. Pan fyddwch wedi cwblhau’r lefel mae’n bosib y cewch gyfle i fynd ymlaen i’r lefel nesaf.

  • Lefel 2 – Prentisiaeth Sylfaenol

Y Cam Nesaf

Cysylltwch ag un o’n Cydlynwyr Hyfforddiant cymwys a fydd yn gallu eich cynorthwyo i benderfynu pa lefel sy’n addas ar eich cyfer chi.

Pin It on Pinterest

Share This