Cefnogi Dysgu
Mae yna dros 1,500 o swyddi cymhorthydd dosbarth ar gael yn y DU ac mae’r DU sydd yn cynnwys cyflogi tua 25,000 o bobl mewn 23,000 oysgolion y sector. Mae’r swyddi yma yn amry-wio o reoli ymddygiad y dosbarth, i gymryd lle athro absennol.
Wrth gyflawni cymwysterau Cefnogi Dysgu, fydd yr unigolyn yn datblygu sgiliau a gwybodaeth i annog addysg disgyblion.
Pam Cefnogi Dysgu?
- Mae nifer o gyfleoedd ar gael yn y sector
- Gellir trosglwyddo’r sgiliau a ddysgir i feysydd galwedigaethol eraill ac mae’r rhagolygon ar gyfer cael dyrchafiad yn rhagorol
- Bydd y cymwysterau a enillir yn cael eu cydnabod gan gyflogwyr ac yn fantais wirioneddol pan fyddwch yn meddwl am ddyrchafiad neu wneud cais am swydd
Y Fframwaith Prentisiaethau
Mae’r Fframwaith Prentisiaeth yn cynnwys cyfres o gymwysterau, sef cymhwyster ar sail gymhwysedd, cymhwyster ar sail wybodaeth, sgiliau hanfodol a hawliau a chyfrifoldebau a gweithwyr.
Bydd yr amser a gymerir i gwblhau’r fframwaith yn amrywio i bob unigolyn, ond dylech ddisgwyl i gwblhau o fewn 14 i 16 mis. Bydd Cynllun Dysgu Unigol yn cael ei gytuno a’i bersonoli ar eich cyfer.
Gan ddibynnu ar eich swydd bresennol a dysgu blaenorol, gall mynd ati i ddysgu ar y lefelau canlynol. Pan fyddwch wedi cwblhau’r lefel mae’n bosib cewch gyfle i fynd ymlaen i’r lefel nesaf.
- Lefel 2 – Prentisiaeth Sylfaenol
- Lefel 3 – Prentisiaeth
Y Cam Nesaf
Cysylltwch ag un o’n Cydlynwyr Hyfforddiant cymwys a fydd yn gallu eich cynorthwyo i benderfynu pa lefel sy’n addas ar eich cyfer chi.