Gwaith Chwarae

Mae Gwaith Chwarae yn nawr yn cael ei hadnabod fel sector proffesiynol gydag opsiynau a llwybrau gyrfaol. Mae’n darparu sgiliau i bob plentyn a phobl ifanc mewn oedran ysgol, beth bynnag yw eu cefndir a gallu mewn maes eang o leoliadau.

Wrth ymgymryd cymwysterau Gwaith Chwarae yn y lefel priodol, fydd y dysgwr yn en-nill gwybodaeth, dealltwriaeth a sgiliau sydd yn angenrheidiol i weithio’n effeithiol mewn swyddo-gaethau Gwaith Chwarae.

Gwaith Chwarae?

  • Mae nifer o gyfleoedd ar gael yn y sector
  • Gellir trosglwyddo’r sgiliau a ddysgir i feysydd galwedigaethol eraill ac mae’r rhagolygon ar gyfer cael dyrchafiad yn rhagorol
  • Bydd y cymwysterau a enillir yn cael eu cydnabod gan gyflogwyr ac yn fantais wirioneddol pan fyddwch yn meddwl am ddyrchafiad neu wneud cais am swydd

Fframwaith Prentisiaeth

Mae’r Fframwaith Prentisiaeth yn cynnwys cyfres o gymwysterau, sef cymhwyster ar sail gymhwysedd, cymhwyster ar sail wybodaeth, sgiliau hanfodol a hawliau a chyfrifoldebau a gweithwyr.

Bydd yr amser a gymerir i gwblhau’r fframwaith yn amrywio i bob unigolyn, ond dylech ddisgwyl i gwblhau o fewn 13 i 16 mis. Bydd Cynllun Dysgu Unigol yn cael ei gytuno a’i bersonoli ar eich cyfer.

Gan ddibynnu ar eich swydd bresennol a dysgu blaenorol, gall mynd ati i ddysgu ar y lefelau canlynol. Pan fyddwch wedi cwblhau’r l efel mae’n bosib cewch gyfle i fynd ymlaen i’r lefel nesaf.

  • Lefel 2 – Prentisiaeth Sylfaenol
  • Lefel 3 – Prentisiaeth

Y Cam Nesaf

Cysylltwch ag un o’n Cydlynwyr Hyfforddiant cymwys a fydd yn gallu eich cynorthwyo i benderfynu pa lefel sy’n addas ar eich cyfer chi.

Pin It on Pinterest

Share This