Gofal Plant

Mae tua 2,400 o fusnesau sy’n cyflogi staff yn y sector Gofal Plant ynghyd â 2,000 o warchodwyr plant cofrestredig hunan-gyflogedig.

Drwy gyflawni’r Prentisiaeth Gofal, Dysgu & Datblygiad Plant ar y lefel briodol, byddwch yn datblygu’r sgiliau sydd eu hangen arnoch i sicrhau eich bod yn cwrdd â safonau’r diwydiant.

Pam Gofal, Dysgu & Datblygiad Plant?

  • Mae angen i gyflogwyr gael staff cymwysedig a chymwys
  • Bydd y sgiliau a ddysgwch yn cynyddu eich siawns o gael dyrchafiad yn sylweddol
  • Mae’r cymwysterau y gallwch eu hennill yn cael eu cydnabod gan gyflogwyr yn y diwydiant gofal plant ac yn fantais wirioneddol wrth feddwl am ddyrchafiad neu ymgeisio am swydd

Y Fframwaith Prentisiaethau

Mae’r Fframwaith Prentisiaethau’n cynnwys cyfres o gymwysterau, fel arfer QCF (NVQ) a Sgiliau Hanfodol. Cytunwyd ar y cymwysterau hyn gan y Cyngor Sgiliau Sector perthnasol sy’n gyfrifol am Ofal, Dysgu & Datblygiad Plant.

Mae’r amser a gymerir i gwblhau’r fframwaith prentisiaethau’n amrywio gyda phob dysgwr ond dylech ddisgwyl gallu ei gwblhau o fewn 18 mis. Yn ystod eich cwrs cynefino, bydd Cynllun Dysgu Unigol yn cael ei gytuno ar eich cyfer, wedi’i bersonoleiddio ar gyfer eich dysgu.

Gan ddibynnu ar eich swydd bresennol a’ch dysgu blaenorol, gallwch gyflawni’r dysgu ar un o’r lefelau canlynol. Unwaith y byddwch wedi cwblhau un lefel, gallwch symud ymlaen at y nesaf.

  • Lefel 2 – Prentisiaeth Sylfaenol
  • Lefel 3 – Prentisiaeth
  • Lefel 5 – Prentisiaeth Uwchradd

Y Cam Nesaf

Cysylltwch ag un o’n Cydgysylltwyr Hyfforddiant fydd yn gallu eich helpu i benderfynu pa lefel sy’n addas i chi.

Pin It on Pinterest

Share This