Gwaith Niwclear (Digomisiynu)
Mae Gwaith Niwclear yn cynnwys amrywiaeth o swyddi ar gael mewn gorsafoedd niwclear a gall gynnal incwm gweddus. Gall y swyddi gynnwys peiriannydd niwclear neu goruchwyliwr diogel-wch.
Wrth gyflawni cymwysterau Gwaith Niwclear ar y lefel briodol, bydd yr unigolyn yn datblygu sgiliau i drwsio dyfais niwclear a sicrhau diogelwch i’r adeilad.
Pam Gwaith Niwclear (Digomisiynu)?
- Mae nifer o gyfleoedd ar gael yn y sector
- Gellir trosglwyddo’r sgiliau a ddysgir i feysydd galwedigaethol eraill ac mae’r rhagolygon ar gyfer cael dyrchafiad yn rhagorol
- Bydd y cymwysterau a enillir yn cael eu cydnabod gan gyflogwyr ac yn fantais wirioneddol pan fyddwch yn meddwl am ddyrchafiad neu wneud cais am swydd

Y Fframwaith Prentisiaethau
Mae’r Fframwaith Prentisiaeth yn cynnwys cyfres o gymwysterau, sef cymhwyster ar sail gymhwysedd, cymhwyster ar sail wybodaeth, sgiliau hanfodol a hawliau a chyfrifoldebau a gweithwyr.
Bydd yr amser a gymerir i gwblhau’r fframwaith yn amrywio i bob unigolyn, ond dylech ddisgwyl i gwblhau o fewn 16 i 20 mis. Bydd Cynllun Dysgu Unigol yn cael ei gytuno a’i bersonoli ar eich cyfer.
Gan ddibynnu ar eich swydd bresennol a dysgu blaenorol, gall mynd ati i ddysgu ar y lefelau canlynol. Pan fyddwch wedi cwblhau’r lefel mae’n bosib cewch gyfle i fynd ymlaen i’r lefel nesaf.
- Lefel 2 – Prentisiaeth Sylfaenol
Y Cam Nesaf
Cysylltwch ag un o’n Cydlynwyr Hyfforddiant cymwys a fydd yn gallu eich cynorthwyo i benderfynu pa lefel sy’n addas ar eich cyfer chi.